Amdanom ni


Dŵr Cymru yw'r mwyaf ond pump o ddeg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig Cymru a Lloegr.

Mae'n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros dair miliwn o bobl, ac am fynd â'r dŵr gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu i ffwrdd, ei drin, a chael gwared arno mewn ffordd briodol. Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf am y gost isaf bosibl.

Ers 2001, rydyn ni wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru, ac yn cael ein hariannu a'n rheoli ganddynt. Mae Glas Cymru'n unigryw yn y sector dŵr a charthffosiaeth. Fel cwmni cyfyngedig trwy warant nid oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo.

Cwmni nid-er-elw yw Dŵr Cymru.

Ers 1 Ebrill 2017, mae'r holl gwsmeriaid annomestig sy'n derbyn gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth gan gyflenwyr sy'n gweithredu'n llwyr neu'n bennaf yn Lloegr wedi gallu dewis eu Hadwerthwr (h.y. dilëwyd y trothwy o 5ML/blwyddyn ar gyfer cyflenwi dŵr). Penderfynodd Llywodraeth Cymru na fyddai unrhyw newid i'r farchnad Adwerthu yn yr ardaloedd sy'n derbyn eu cyflenwadau gan gwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy'n gweithredu'n llwyr neu'n bennaf yng Nghymru, ac felly mae'r farchnad adwerthu gystadleuol yng Nghymru'n aros yn gyfyngedig i gyflenwi gwasanaethau dŵr ar gyfer safleoedd cwsmeriaid busnes sy'n defnyddio mwy na 50ML o ddŵr y flwyddyn. Nid oes trwydded cyflenwi dŵr a/neu garthffosiaeth (WSSL) sy'n gyfyngedig i hunan-gyflenwi ar gael i ddarparu gwasanaethau ar gyfer eiddo sy'n derbyn cyflenwadau gan ddefnyddio system gyflenwi cwmni penodedig y mae ardal ei benodiad yn llwyr neu'n bennaf yng Nghymru.

Cliciwch yma i weld map manwl o'n hardal weithredu

Gair amdanom ni