Apwyntiadau Newydd ac Amrywiadau (NAV)


NAV Gwasanaeth Llawn

Rydyn ni'n croesawu trafodaethau cynnar â NAV i ystyried unryw arbedion darbodaeth a wneir wrth i safle gael ei wasanaethu gan NAV gwasanaeth llawn. Rydyn ni'n bwriadu adolygu bob cais fesul achos unigol er mwyn canfod y ffeithiau am ba gostau a osgowyd i'r busnes fel cyflenwr cyfredol, ac a yw'n briodol cynnig credyd ar gyfer y costau hyn (er mwyn sicrhau bod lefel briodol o elw ar gael i'r NAV sy'n cyflwyno'r cais).

Ceisiadau NAV

Ein Canolfan Gwasanaethau Adwerthu sy'n rheoli'r holl Geisiadau NAV o fewn ein hardal. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at, a chyflwyno ffurflenni i wholesaleservicecentre@dwrcymru.com neu rhif ffôn 0800 2605053.

Mae gennym gyfres o ddogfennau i gynorthwyo Ceisiadau NAV newydd:

Taliadau

Canllawiau

Ffurflenni Cais

Templedau Cytundeb

Bydd Dŵr Cymru'n defnyddio Cytundebau Safonol WaterUK fel sail ar gyfer unrhyw Gytundeb Cyflenwi neu Ryddhau Swmp, ac adlewyrchir y newididadau yn yr Amodau Arbennig fel y bo'n briodol i drefniadau penodol pob safle.

Cytundeb Cyflenwi Swmp

Cytundeb Rhyddhau Swmp