Adwerthwyr

Ni sy’n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros dair miliwn o gwsmeriaid domestig ac annomestig, ac am gludo eu dŵr gwastraff i ffwrdd, ei drin a’i waredu mewn ffordd briodol. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf am y gost isaf bosibl.

Un o’r ffyrdd niferus y gallwn gyflawni hyn yw trwy sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir i gyflenwadau dŵr cwsmeriaid neu unrhyw systemau dŵr newydd sy’n cael eu gosod yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 (“y rheoliadau”).

Mae rhagor o fanylion am y rheoliadau a sut y gallant effeithio ar gwsmeriaid yma.