Penodiadau Newydd ac Amrywiadau

Ni sy’n gyfrifol am ddarparu cyflenwadau parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer dros dair miliwn o gwsmeriaid domestig ac annomestig, ac am gludo eu dŵr gwastraff i ffwrdd, ei drin a’i waredu mewn ffordd briodol. Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf am y gost isaf bosibl.

Ein Canolfan Gwasanaethau Cyfanwerthu sy’n rheoli ceisiadau ac ymholiadau NAV.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at, a chyflwyno ffurflenni i wholesaleservicecentre@dwrcymru.com neu rhif ffôn 0800 2605053.

Cliciwch yma i weld map manwl o'n hardal weithredu

Gair amdanom ni

 

NAV Gwasanaeth Llawn

Rydyn ni'n croesawu trafodaethau cynnar â NAV i ystyried unryw arbedion darbodaeth a wneir wrth i safle gael ei wasanaethu gan NAV gwasanaeth llawn. Rydyn ni'n bwriadu adolygu bob cais fesul achos unigol er mwyn canfod y ffeithiau am ba gostau a osgowyd i'r busnes fel cyflenwr cyfredol, ac a yw'n briodol cynnig credyd ar gyfer y costau hyn (er mwyn sicrhau bod lefel briodol o elw ar gael i'r NAV sy'n cyflwyno'r cais).

Mae ein nodiadau canllaw ar gyfer NAVs yn darparu manylion y gwahaniaethau sydd mewn grym mewn ardaloedd statudol sy’n llwyr neu’n bennaf yng Nghymru:

  • Y meini prawf trothwy ar gyfer Defnyddwyr Mawr;
  • Y rheolau codi tâl am gysylltiad newydd;
  • Y safonau adeiladu mandadol ar gyfer carthffosydd; a’r
  • Gofynion chwistrellwyr tân (sy’n berthnasol i Ddatblygiadau yng Nghymru yn unig).

Mae’r ffurflenni cais a’n nodiadau Canllaw yn nodi manylion y prosesau sy’n berthnasol i bob maen prawf NAV: